1 Val yr oeddwn yn myned
2 dros vynydd gwyr crefydd cred
3 am hoyw dudded am danaf
4 val amaeth mewn hiraeth haf
5 nycha gangen ar y rhos
6 o vorwyn yn vy aros
7 [382] cyfarch meddwl alarch mwyn
8 gwell iddi ddyn gall addwyn
9 ateb a wnaeth i phrydydd
10 ateb serch om tyb ysydd
11 cyd gerdded val merched mai
12 ac oerddyn ni chyd gerddai
13 gosyml vvm am vorwyn lan
14 gosyml ni bv am gusan
15 canmol i llygaid gloywion
16 canmolid prifardd hardd hon
17 gofyn cyn del rhyveloedd
18 a vynnai vi vy nef oedd
19 ni chai vab o ael y vro
20 vn ateb na wn eto
21 Down i Lan Badarn dd{w}[Sul
22 neu ir davarn wr divul
23 ac o ddyno yn irgoed
24 neu 'yn yne ni nawn oed
25 ni vynnwn rhac cael gogan
26 wybod y mod mewn bedw man
27 llwfr iawn i'm bernir oth serch
28 a dewrddyn yw dy ordderch
29 nag eiriach dyledach clo
30 er cynnen y wraig hono
31 ar iawn blas o lasgoed
32 ar ail nis gwybu erioed
33 ac nis gwybydd dyn eiddig
34 tra vo llen ar bren a brig
35 cymryd vynghenad vorwyn
36 ceidwades lladrones llwyn
37 ni wnai hocrell afrywiog
38 a wnaeth ai gair nith y gog
39 addaw fol am gwnai'n llawen
40 addewid gwir vydd oed gwen
Dauid ap Gwilim